(1) Tyred, Iesu, i'r anialwch, At bechadur gwael ei lun, Ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau - Rhwydau weithiodd ef ei hun; Llosg fieri sydd o'm cwmpas, Dod fi sefyll ar fy nhraed, Moes dy law, ac arwain drosodd F'enaid gwan i dir ei wlad. (2) Tyred, Arglwydd, i'r anialwch, Yma buost ti o'r bla'n; Cyfarwydda lesg bererin A dy golofn niwl a thân; Dal fy ysbryd, sy'n llewygu Gan ryw ofnau o bob man; Yn dy allu 'rwyf yn gadarn, Hebot ti nid wyf ond gwan. (3) Manna nefol sy_arna'i eisiau, Dwr rhedegog, gloyw, byw, Sydd yn tarddu o dan riniog Temel sanctaidd, bur fy Nuw; Golchi'r aflan, cannu'r duaf, Gwneud yr euog brwnt yn lân; Ti gei'r clod ryw fyrdd o oesoedd Wedi_i'r ddaear fynd yn dân. (4) Tlawd yw'r cwbl wy'n ei weled, Gwlad heb oleu, gwald heb wres, Gwlad heb degwch mewn creadur, Fel b'wy'n myned ato'n nes; Gwlad heb dad, heb frawd, heb gyfaill, Gwlad wyf ynddi'n blino byw; Mi âf draw i'r gwledydd hyfryd, At f'Anwylyd hawddgar, gwiw. (5) Fyth ni all'sai'm dyledswyddau, Fyth ni all'sai ffrwyth y bru; Mil o nentydd maith o olew, Foddio dim o honot ti: Deng mil hyfryd o feheryn, Neu ynteu'r peraroglau mân; Nac un dim odan y nefoedd, Allai olchi'r brwnt yn lân. (6) Ar dy allu 'rwy'n ymddiried: Mi anturiaf, doed a ddêl, Dreiddio drwy'r afonydd dyfnion, Mae dy eiriau oll dan sêl; Fyth ni fetha a gredo ynot, Ni bu un erioed yn ôl; Mi â 'mlaen, a doed a ddelo, Graig a thyle, ar dy ôl. (7) Cyfod, Haul a rhwyga'r tywyllwch Chwala'r beiau mwyaf cudd; Erlid ofnau anghrediniaeth, Fel y nos o flaen y dydd: Rho im' wel'd yr ardal hyfryd, Lle mae nod fy ngobaeth gwell; Cadw'm golwg yn yr anial Ar y tirion wledydd pell. (8) Dysg fi gerdded tryw'r afonydd, Ac nac ofnwyf gan y llif, Na bwy'n ildio gyda'r tonau Temtasiynau fwy na rhif; Cadw 'ngolwg ar y bryniau Uchel hardd, tu draw i'r dŵr; Cadw ngafael yn yr afon, Ar yr Iesu, y blaenaf wr. (9) Wrth ei orsedd yr ymdrechaf, A fy ngolwg tua'r nef; A dysgwyliaf hyd y wawrddydd Am ei bresennoldeb Ef: Rhad faddeuant, gwawria bellach, Rho garcharor caeth yn rhydd, Fu'n ymdreiglo mewn tywyllwch, 'Nawr i weled goleu'r dydd. sy_arna'i :: sy_arnaf cannu'r duaf :: canu'r Ethiop Wedi_i :: 'R ol i :: 'Nol i thyle :: thylau
Tonau [8787D]:
gwelir: |
(1) Come, Jesus, to the desert, To a sinner in a wretched condition, A hundred times entangled in some nets - Nets he himself worked; Burning brambles are around me, Grant me to stand on my feet, Give thy hand, and lead across My weak soul to the land of its country. (2) Come, Lord, to the desert, Here thou wast before; Guide a feeble pilgrim With thy pillar of fog and fire; Keep my spirit, which is fainting Through some fears from every place; In thy power I am secure, Without thee I am only weak. (3) Heavenly Manna I have need of, Running water, clear, living, Which is issuing from under the threshold Of the pure, holy Temple of my God; Wash the unclean, bleach the blackest, Make the guilty, dirty one clean; Thou shalt get the praise of some myriad of ages After the earth catches fire. (4) Poor is the whole that I can see, A land without light, a land without warmth, A land without fairness in a creature, Like I am going to next; A land without a father, without a brother, without a friend, A land I am in wearying of living; I will go yonder to the delightful lands, To my beautiful, worthy Beloved. (5) Never could my duties, Never could the fruits of the womb; A thousand of wide streams of oil, Drown anything of thee: Ten delightful thousands of rams, Or even the fine, sweet smells; Not one thing under the heavens Could wash the dirty clean. (6) In thy power I am trusting: I will venture, come what may, To enter through the deep rivers, All thy words are under a seal; Never shall fail one who trusts in thee, Not one has ever been before; I will go forwards, and come what may, Rock and hill, after thee. (7) Rise, Sun, and rend the darkness, Smash the most hidden sins; Chase the fears of unbelief, Like the night before the day: Grant me to see the delightful region, Where is the goal of my better hope; Keep my sight in the desert On the dear distant lands. (8) Teach me to walk through the rivers, And I shall not be frightened of the flood, Nor shall I yield to the waves Of temptations more than number; Keep my view on the beautiful High hills, beyond the water; Keep my grasp in the river, On Jesus, the foremost man. (9) At his throne I will endeavour, With my gaze towards heaven; I will watch until the dawn of day For His presence: Free forgiveness, dawn henceforth, Set the captive prisoner free, Who was wandering in darkness, Now to see the light of day. :: bleach the blackest :: bleach the Ethiopian :: :: hill :: hills tr. 2008,15 Richard B Gillion |
|